CROESO I WEFAN YSGOL Y FRO
Sefydlwyd Ysgol Y Fro ym 1996 fel ysgol ffederal, er mwyn diogelu’r ddarpariaeth addysg mewn ardal wledig. Mae ffedereiddio ysgolion gwledig yn galluogi trigolion pob pentref i addysgu’u plant o fewn y gymuned leol. Mae’r gymuned yn elwa gan fod y plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol fel Gwasanaethau Diolchgarwch,chwaraeon ac Eisteddfodau a Sioeau lleol.
Caiff y plant eu haddysgu mewn dosbarthiadau bychain o ran nifer. Mae’r system hon yn galluogi’r plant i wneud ffrindiau gyda phlant eraill sy’n byw mewn cymunedau cyfagos. Mae hyn o fudd i blant Blwyddyn Chwech yn enwedig wrth iddyn nhw baratoi i barhau gyda’u haddysg mewn ysgolion cyfun lleol, yng nghwmni cylch eang o ffrindiau.
Eisoes derbyniodd Ysgol Y Fro adroddiadau llwyddiannus mewn dair arolwg. Mae llwyddiant y disgyblion presennol a chynddisgyblion fel ei gilydd yn adlewyrchu llwyddiant yr ysgol hon. Mae ysgolion gwledig yn fodd i gadw cymuned wledig yn fyw.