Crynodeb o Gwricwlwm i Gymru: Ysgol y Fro, Llangyndeyrn
Mae ein cwricwlwm wedi’i gyd-greu drwy ymgysylltu â’r holl randdeiliaid a bydd yn bodloni’r gofynion canlynol:
Ein gweledigaeth
Mae Ysgol y Fro Llangyndeyrn yn darparu cymuned gefnogol, o fewn amgylchedd hapus, lle mae disgyblion yn cael eu cymell a’u herio i gyflawni eu llawn potensial, er mwyn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r Ysgol a’r gymuned ehangach.
Ein gwerthoedd
Ein cwricwlwm cynhwysol
Bydd ein cwricwlwm yn codi dyheadau pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael ei gefnogi i wireddu’r pedwar diben ac i symud ymlaen. Rydym wedi ystyried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn bodloni anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Y pedwar diben
Y pedwar diben yw’r man cychwyn a’r dyhead ar gyfer ein cynllun cwricwlwm ysgol. Nod ein hysgol yw cefnogi ein dysgwyr i ddod :
- yn ddysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
- yn gyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- dinasyddion egwyddorol, gwybodus Cymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig
Bydd ein cwricwlwm yn darparu cyfleoedd a phrofiadau i ddatblygu’r cysyniadau, gwybodaeth a sgiliau allweddol fel y’u disgrifir yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn unol â’r Cod Datganiadau o’r Hyn sy’n Bwysig.
Meysydd Dysgu a Phrofiad
Bydd ein cwricwlwm yn darparu profiadau dysgu drwy’r 6 Maes Dysgu a Phrofiad o:
- Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Celfyddydau Mynegiannol
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Dyniaethau
- Mathemateg a Rhifedd
- Iechyd a Lles
Dysgu, Dilyniant ac Asesu
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu trwy ddylunio cyfleoedd dysgu sy’n tynnu ar yr egwyddorion addysgegol.
Mae ein cwricwlwm, a ategir gan addysgu a dysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a’u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae’n ei olygu i wneud cynnydd mewn Maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, eu sgiliau a’u galluoedd, a’u priodoleddau a’u tueddiadau, ac mae’n cael ei lywio gan y Cod Cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein hymagwedd at asesu, a’i ddiben yw llywio cynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol. Bydd asesu yn cael ei wreiddio fel rhan gynhenid o ddysgu ac addysgu. Bydd pob dysgwr yn cael ei asesu ar fynediad i’r ysgol.
Cymraeg a Saesneg
- Mae ysgolion sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg i gyflwyno’r cwricwlwm. Cyflwynir gwersi Saesneg ym Mlwyddyn 3
Sgiliau trawsgwricwlaidd
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn a’u hymestyn a’u cymhwyso ar draws pob Maes. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:
- datblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- gallu defnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn
- bod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i’w helpu i weithredu a chyfathrebu’n effeithiol a gwneud synnwyr o’r byd
CCUHP – Hawliau Plant
Bydd ein hysgol yn hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o Ran 1 o CCUHP, ac o CCUHP, ymhlith y rhai sy’n darparu addysgu a dysgu.
CWRE : profiadau sy’n gysylltiedig â gyrfaoedd a gwaith
Bydd ein cwricwlwm yn ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ar gyfer ein holl ddysgwyr.
Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb ACRh
Mae ein cwricwlwm ysgol yn cofleidio’r arweiniad yn y Cod ACRh. Bydd gan ein darpariaeth Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb rôl gadarnhaol a grymusol yn addysg ein dysgwyr a bydd yn chwarae rhan hanfodol wrth eu cefnogi i wireddu’r pedwar diben fel rhan o ymagwedd ysgol gyfan. Sylfaen ACRh yw helpu dysgwyr i ffurfio a chynnal ystod o berthnasoedd, i gyd yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Mae’r perthnasoedd hyn yn hanfodol i ddatblygiad lles emosiynol, gwydnwch ac empathi.
CGM : Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Mae crefydd, gwerthoedd a moeseg (CGM) yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac mae’n orfodol i bob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed.
Nid oes hawl gan riant i wneud cais i dynnu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru
Gan fod CGM yn bwnc a bennir yn lleol, mae’r maes llafur cytûn yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn CGM o fewn yr awdurdod lleol a bydd ein cwricwlwm yn adlewyrchu’r canllawiau hyn.
Adolygu a mireinio
Bydd ein cwricwlwm ysgol yn cael ei adolygu’n barhaus er mwyn ymateb i allbynnau ymholi proffesiynol, anghenion cyfnewidiol dysgwyr a chyd-destunau ac anghenion cymdeithasol. Bydd yr adolygiadau’n ystyried barn rhanddeiliaid ac yn cael eu cymeradwyo gan y Corff Llywodraethol. Byddwn yn cyhoeddi crynodeb o’n cwricwlwm ac yn adolygu’r crynodeb os gwneir newidiadau i’r cwricwlwm yn ystod y broses adolygu.
Curriculum for Wales Summary: Ysgol y Fro Llangyndeyrn
Our curriculum has been co-constructed through engaging with all stakeholders and will meet the following requirements:
Our vision
Ysgol y Fro Llangyndeyrn provides a supportive community, with a happy environment, where pupils are motivated and challenged to achieve their full potential, in order to make a positive contribution to the School and the wider community.
Our values
Active Able Knowledgeable Caring
Our inclusive curriculum
Our curriculum will raise the aspirations for all learners. As a school we have considered how all learners will be supported to realise the four purposes and to progress. We have considered our ALN provision and how we will meet the needs of different groups of learners.
The four purposes
The four purposes are the starting point and aspiration for our school curriculum design. Our school aims to support our learners to become:
- ambitious, capable learners, ready to learn throughout their lives
- enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work
- ethical, informed citizens of Wales and the world
- healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society
The statements of what matters
Our curriculum will provide opportunities and experiences to develop the key concepts, knowledge and skills as described in the statements of what matters and in line with the Statements of What Matters Code.
Areas of Learning and Experience
Our curriculum will provide learning experiences through the 6 AoLEs of:
- Languages, Literacy and Communication
- Expressive Arts
- Science and Technology
- Humanities
- Maths and Numeracy
- Health and Wellbeing
Learning, Progression and Assessment
Our curriculum will support learning through designing learning opportunities that draw upon the pedagogical principles.
Our curriculum, supported by effective teaching and learning enables learners to make meaningful progress. Over time our learners will develop and improve their skills and knowledge. Our curriculum focuses on understanding what it means to make progress in a given Area or discipline and how learners should deepen and broaden their knowledge and understanding, skills and capacities, and attributes and dispositions and is informed by the Progression Code. This in turn supports our approach to assessment, the purpose of which is to inform planning for future learning. Assessment will be embedded as an intrinsic part of learning and teaching. All learners will be assessed on entry to the school.
Welsh and English
- Schools providing Welsh-medium education use Welsh to deliver the curriculum. English lessons are introduced in Year 3.
Cross curricular skills
Our curriculum will develop the mandatory cross-curricular skills of literacy, numeracy and digital competence. Our curriculum will enable learners to develop competence and capability in these skills and to extend and apply them across all Areas. Learners will be given opportunities across the curriculum to:
- develop listening, reading, speaking, and writing skills
- be able to use numbers and solve problems in real-life situations
- be confident users of a range of technologies to help them function and communicate effectively and make sense of the world
UNCRC : The Rights of the Child
Our school will promote knowledge and understanding of Part 1 of the UNCRC, and of the UNCRPD, among those who provide teaching and learning.
CWRE : Careers and Work-related Experiences
Our curriculum will incorporate careers and work related experiences for all of our learners.
Relationship and Sexuality Education RSE
Our school curriculum embraces the guidance in the RSE Code. Our RSE provision will have a positive and empowering role in our learners’ education and will play a vital role in supporting them to realise the four purposes as part of a whole-school approach. Helping learners to form and maintain a range of relationships, all based on mutual trust and respect, is the foundation of RSE. These relationships are critical to the development of emotional well-being, resilience and empathy.
Religion Values and Ethics RVE
Religion, values and ethics (RVE) is a statutory requirement of the Curriculum for Wales and is mandatory for all learners from ages 3 to 16.
There is no parental right to request that a child is withdrawn from RVE in the Curriculum for Wales
As RVE is a locally determined subject, the agreed syllabus specifies what should be taught in RVE within the local authority and our curriculum will reflect this guidance.
Review and refinement
Our school curriculum will be kept under review in order to respond to the outputs of professional inquiry, the changing needs of learners and social contexts and needs. The reviews will take into account the views of stakeholders and will be signed off by the Governing Body. We will publish a summary of our curriculum and revise the summary if changes to the curriculum are made during the review process.